Skip to main content

Pam tapio bedw?

Y fedwen yw’r goeden lydanddail fwyaf cyffredin yng Nghymru. Mae Ystadegau Coedwigaeth 2019 yn amcangyfrif bod 2,000 ha o Ystâd Coedwigaeth Llywodraeth Cymru (NRW) a 11,000 ha o goetiroedd preifat yn cael eu dominyddu gan goed bedw. Serch hynny, yn gyffredinol yng Nghymru caiff y fedwen ei hystyried fel coeden sydd â pheth gwerth neu ddim gwerth masnachol ac felly prin y caiff ei rheoli’n weithredol.