Skip to main content

Categori: Taflenni

Gwerthu Hadau Coed

Mewn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, mae yna ymdrech ar waith i blannu
rhagor o goed ledled y wlad.

Ond o ble y daw’r stoc plannu? Mae lawer ohono yn dod o meithrinoedd coed masnachol ac mae’r rhain
yn prynu hadau o gasglwyr lleol. Mae hyn yn gyfle lle mae pawb ar eu hennill i gyfrannu at blannu coed wrth gynhyrchu incwm.

Sut i wneud surop bedw

Mae troi sudd yn surop yn cynnwys crynodi’r siwgrau yn y sap drwy gael gwared ar ddŵr. Gan fod y sap ffres yn cynnwys oddeutu 1% o siwgr a dylai surop gynnwys > 60% o siwgr, bydd 100 litr o sap yn cynhyrchu oddeutu 1 litr o surop. Mae hyn yn golygu berwi cryn dipyn o ddŵr!

Pam tapio bedw?

Y fedwen yw’r goeden lydanddail fwyaf cyffredin yng Nghymru. Mae Ystadegau Coedwigaeth 2019 yn amcangyfrif bod 2,000 ha o Ystâd Coedwigaeth Llywodraeth Cymru (NRW) a 11,000 ha o goetiroedd preifat yn cael eu dominyddu gan goed bedw. Serch hynny, yn gyffredinol yng Nghymru caiff y fedwen ei hystyried fel coeden sydd â pheth gwerth neu ddim gwerth masnachol ac felly prin y caiff ei rheoli’n weithredol.