Skip to main content

AMDANOM NI

AMDANOM NI

Datblygwyd Dewis Gwyllt er mwyn archwilio’r potensial i greu incwm o gynhyrchion coetiroedd gwyllt er mwyn cefnogi grwpiau coetir cymunedol yng Nghymru. Mae ein tîm yn gweithio ar lawr gwlad gyda grwpiau ac yn cynnal gwaith ymchwil gwyddonol er mwyn cwmpasu cyfleoedd cynaeafu cynaliadwy. Ond mae’n bwysig nodi nad menter fforio mohonom.

AMDANOM NI

Prosiect partneriaeth oedd Dewis Gwyllt rhwng Llais y Goedwig, y rhwydwaith coetiroedd cymunedol ar gyfer Cymru, a Wild Resources Ltd, sef grŵp cynghori ar goedwigaeth sy’n defnyddio ymchwil gymhwysol a gwasanaethau technegol er mwyn helpu i ddefnyddio cynhyrchion coedwigoedd mewn modd cynaliadwy. Dewch i GYFARFOD Â’R TÎM

Caiff y prosiect ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cymru trwy gyfrwng Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio y Rhaglen Datblygu Gwledig rhwng Ionawr 2019 ac Medi 2022. Mae Grŵp Llywio Dewis Gwyllt yn cynnwys y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd® (FSC®) UK, Cywain, Cyswllt Ffermio  a Chyfarwyddwyr Llais y Goedwig.

Roedd Dewis Gwyllt yn archwilio cyfleoedd i gynhyrchu incwm yn sgil cynhyrchion coetiroedd gwyllt er mwyn cynorthwyo grwpiau coetir cymunedol yng Nghymru. Beth am ddysgu rhagor ynglŷn â’r HYN A WNAWN

HANES

Mae ein gwaith yn deillio o’n cyfraniad at brosiect StarTree (2012-16). Prosiect ymchwil EU FP7+ ledled Ewrop oedd StarTree. Roedd yn ymchwilio i’r posibilrwydd y gallai Cynhyrchion Coedwigoedd Di-bren (NWFP) gyfrannu at ddatblygu gwledig mewn 14 rhanbarth yn Ewrop. Yng Nghymru, fe wnaethom ganfod fod yna fentrau sy’n gwerthu cynhyrchion y defnyddir cynhwysion gwyllt ynddynt, ond ychydig iawn o gadwyni cyflenwi neu rwydweithiau cydnabyddedig sy’n bodoli i gysylltu perchnogion a rheolwyr coetiroedd a allai fod ag adnoddau y gellir eu cynhaeafu, gyda chynhyrchwyr a allai ddefnyddio’r adnoddau hynny. Rhagor o wybodaeth am ein cyfraniad at StarTree. 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, CYSYLLTWCH Â NI 

DILYNWCH NI’N FYW AR
FACEBOOK

Ymunwch â’n cymuned ar Facebook. Am y wybodaeth ddiweddaraf ewch i …