Skip to main content

ARDYSTIAD

ARDYSTIAD

Mae llawer o’r cynnyrch yr ydym yn ei brynu yn dangos nod barcud cyrff ardystio cenedlaethol a byd-eang a gydnabyddir yn eang, gan ddarparu sicrwydd i ni fel defnyddwyr. Ond beth yw’r cyfleoedd ardystio i gynhyrchion coedwigoedd nad ydynt yn bren? 

ARDYSTIAD

Ardystio cynnyrch yw’r broses o wirio bod cynnyrch penodol wedi mynd drwy brofion perfformiad, sicrhau ansawdd, a/neu chynaliadwyedd yn llwyddiannus. 

Mae’n bwysig ystyried ardystiad wrth benderfynu pa negeseuon rydych eisiau eu cyfleu i brynwyr a defnyddwyr cynhyrchion, a gall effeithio ar y prisiau y gallwch eu codi am nwyddau neu wasanaethau. Bydd ardystiad yn rhoi sicrwydd i brynwyr fod y cynnyrch maen nhw’n ei brynu wedi cael ei dyfu, ei gynaeafu a’i brosesu yn gynaliadwy. 

Mae sawl gwahanol gynllun ardystio ar gael sy’n dangos bod cynhyrchion coetir heblaw pren wedi’u cynaeafu’n gynaliadwy:

  • Ardystiad organig drwy’r Soil Association (link) ar gyfer bwyd neu gynhyrchion wedi’u ffermio o ffermydd ardystiedig. Mae safonau organig y Soil Association yn defnyddio rheoliad organig yr UE fel llinell sylfaen.

  • Cynlluniau ardystio rhyngwladol, megis FairWild sy’n ceisio darparu fframwaith byd-eang ar gyfer gweithredu system gynaliadwy a masnach deg ar gyfer cynhwysion planhigol a gesglir o’r gwyllt, a’u cynhyrchion. Mae hyn yn cynnwys tâl teg a chyfiawn ar gyfer gweithwyr. 

Wrth ystyried a yw ardystio’n briodol ar gyfer eich busnes chi, bydd angen ichi ystyried y canlynol: 

  • Beth yw gwerth ardystio eich cynnyrch? 
  • Beth yw’r goblygiadau o ran costau ac adnoddau? 
  • Sut fydd ardystiad yn fuddiol i’ch busnes?

Nid oes ateb syml i’r cwestiynau hyn, gan fod bob un yn dibynnu ar y cynnyrch unigol a’r farchnad dan sylw, ond mae’r cwestiynau’n rhai y bydd prosiect dilynol Dewis Gwyllt, sef Nwyddau o’r Goedwig yn eu hystyried drwy blatfform marchnata digidol ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau coetir, a threialon cynlluniau ardystio cysylltiedig. Mwy o wybodeath yn dod yn fuan!

CoedNet

Cyfeirlyfr ar-lein o grwpiau a mentrau coetir cymunedol sy’n gwerthu cynaliadwy nwyddau, gwasanaethau a phrofiadau coedlannau Cymru. Fe’i crëwyd gan dîm Goods from the Woods sy’n gweithio i Llais y Goedwig.