YN EICH COETIR
YN EICH COETIR
Oes gan eich coetir gyflenwad o gynhyrchion coedwigoedd nad ydynt yn bren y gellid eu cynaeafu’n gynaliadwy ar sail fasnachol?
YN EICH COETIR
Os oes gennych goetir ac rydych yn dymuno gwneud incwm ohono, y dasg gyntaf fydd llunio rhestr sylfaenol o’r adnoddau sydd ynddo. Yna, bydd angen ichi benderfynu a oes unrhyw beth ynddo sydd â dichonoldeb masnachol ac sy’n bresennol mewn symiau digon mawr i gefnogi cynaeafu cynaliadwy.
Cymerwch olwg ar ein ffilm Woodland Walkabout am ychydig o ysbrydoliaeth!
Ceir nifer fawr o resymau dros ddysgu mwy am eich coetir; rhesymau monitro, fel sail i gynllun rheoli, i ddylunio system goedwrol briodol, i gofnodi bioamrywiaeth ac ati, yn ogystal â chynllunio ar gyfer cynaeafu cynaliadwy. Mae’r ffyrdd o arolygu eich coetir (cofnodi’r holl wahanol rywogaethau planhigion ac anifeiliaid sy’n bresennol) bron yr un mor niferus – o wahodd arbenigwr planhigion draw am y prynhawn i gynnal arolygon manwl. Fodd bynnag, os ydych eisiau defnyddio’r wybodaeth a gasglwch fel sail ar gyfer cynllunio cynaeafu cynaliadwy, mae’n well bod yn systematig a chreu rhestr cynnwys coetir. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Wild Resources Ltd, ar ran Llais y Goedwig, wedi datblygu dull syml o gynnal arolwg a fydd yn briodol ar gyfer rhywogaethau cyffredin mewn coetiroedd gweddol fach.
Gallwch lawrlwytho’r llawlyfr ar gyfer yr arolwg yma:
Protocol ar gyfer arolwg adnoddau coetir (Saesneg yn unig ar hyn o bryd)
Ariannodd Focus on Forestry First y gwaith o ddatblygu cwrs tridiau yn seiliedig ar y llawlyfr hwn, sef Uncovering Hidden Opportunities. Mae deunyddiau’r cwrs a gwybodaeth am gyrsiau yn y dyfodol agos i’w cael ar wefan FFF ac yn adran DOLENNI y wefan hon.
Efallai eich bod eisoes yn gyfarwydd iawn â’r holl wahanol rywogaethau coed a phlanhigion sydd yn eich coetir. Ond pa rai allai fod yn gynhyrchion masnachol dichonol? Dysgwch fwy am DDEWIS CYNHYRCHION

DILYNWCH NI’N FYW AR
FACEBOOK
Ymunwch â’n cymuned ar Facebook. Am y wybodaeth ddiweddaraf ewch i …
CEFNOGWYD GAN | ||