HADAU COED
HADAU COED
Rydym wedi bod yn edrych ar y potensial o ennill incwm o hadau coed, ond hefyd sut i gynyddu cyflenwadau o hadau lleol eu tarddiad a chefnogi plannu coed lleol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
HADAU COED
Mae diddordeb cynyddol mewn casglu hadau coed a thyfu coed o darddiad lleol, ac mae hynny’n cynnig cyfleoedd economaidd.
Er mwyn gallu plannu rhywogaethau brodorol, mae angen inni ganfod a chasglu hadau o goed gwyllt yn gyntaf. Mae’r gadwyn gyflenwi ar gyfer hadau coed brodorol wedi’i hen sefydlu – yr hyn roeddem ni’n awyddus i’w archwilio oedd sut y gallai aelodau Llais y Goedwig neu grwpiau cymunedol eraill gymryd rhan yn y gadwyn gyflenwi o’r cam hadau i’r cam plannu, er mwyn:
- Ennill incwm
- Cynyddu’r cyflenwad o hadau coed o darddiad lleol
- Cefnogi’r gwaith o blannu mwy o goed yn eu hardal leol

ENNILL INCWM
Mae canfyddiadau ein treial masnachu hadau yn dangos y byddai masnachu fel contractwr (h.y. gwerthu hadau yn uniongyrchol i feithrinfeydd coed) yn gweithio’n well ar sail un-i-un, yn hytrach na chreu cronfeydd o gasgliadau llai ledled y wlad. Gallwch weld astudiaeth achos sy’n cynnwys manylion am y ffordd y gwnaeth y grŵp coetir cymunedol Coetir Mynydd werthu hadau i feithrinfa goed fasnachol YMA.

CYNYDDU’R CYFLENWAD O HADAU COED O DARDDIAD LLEOL
Yn ôl yn hydref 2020, gweithiodd Dewis Gwyllt mewn partneriaeth â Coed Cadw ar y prosiect CommuniTree, sy’n parhau eleni (2022) gyda chymorth gan y People’s Postcode Lottery. Mae CommuniTree wedi cefnogi:
- Arolygon manwl i ganfod faint o ddiddordeb, profiad ac adnoddau sydd mewn coetiroedd cymunedol a phreifat yng Nghymru.
- Datblygiad adnoddau ar gyfer casglu a storio hadau, rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â deunyddiau atgenhedlol y goedwig (FRM), a datblygiad meithrinfeydd coed graddfa fechan. (Gweler y dolenni ar waelod y dudalen am yr adnoddau cyflawn)
- Hyfforddiant a digwyddiadau rhannu gwybodaeth i ddatblygu sgiliau a chyfleoedd rhwydweithio ymhlith grwpiau, unigolion a sefydliadau rhagweithiol.

CEFNOGI’R GWAITH O BLANNU MWY O GOED AR LEFEL LEOL
Drwy weithio ar lefel llawr gwlad, i ddatblygu sgiliau a rhwydweithiau o grwpiau ac unigolion, mae Dewis Gwyllt wedi cefnogi’r broses o ddatblygu’r seilwaith sydd ei angen i gynyddu nifer y coed o darddiad lleol y gellir eu plannu yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw hon yn fenter newydd ac mae llawer o waith i’w wneud eto, yn sicr.

ADNODDAU DEWIS GWYLLT
ADNODDAU DEWIS GWYLLT

DILYNWCH NI’N FYW AR
FACEBOOK
Ymunwch â’n cymuned ar Facebook. Am y wybodaeth ddiweddaraf ewch i …

CEFNOGWYD GAN | ||