CYNALIADWYEDD
CYNALIADWYEDD
Hawdd iawn yw dweud y dylid cynaeafu mewn modd cynaliadwy. Ond nid gwaith syml o gwbl yw amgyffred beth y mae hyn yn ei olygu’n ymarferol ar gyfer rhywogaeth a choetir arbennig, a rhaid deall y rhywogaeth, y coetir a’i le yn y dirwedd ffisegol, gymdeithasol a diwylliannol ehangach.
CYNALIADWYEDD
Gellir dehongli cynaliadwyedd mewn sawl ffordd ac mae’n cynnwys amgylcheddau cymdeithasol ac economaidd yn ogystal ag ecolegol.
Yng Nghymru mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yn diffinio ystyr cynaliadwyedd fel datblygiad sy’n sicrhau “bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau”.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015)
Yn ychwanegol mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru)(2016) yn gofyn bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaliadwy a ffurfir gan naw egwyddor. O blith y rhain y mwyaf perthnasol ar gyfer masnacheiddio adnoddau gwyllt yw y dylai cynlluniau rheoli adnoddau naturiol fod yn: addasadwy; yn seiliedig ar dystiolaeth a manteision hir-dymor o gydweithio a deall yr ystod lawn o fanteision sy’n deillio o adnoddau naturiol.
Mae masnacheiddio adnoddau gwyllt yn gwbl flaenllaw ymhlith y pryderon ynghylch camddefnyddio adnoddau naturiol cynaliadwy. Mae hyn oherwydd bod datblygu mentrau yn gyffredinol yn gofyn am gynaeafau sylweddol ac felly’n agor y posibilrwydd o or-ddefnydd sydd angen cael ei reoli. Mae gofyn i incymau cynaliadwy hefyd gael cyflenwad parhaus sydd angen cael ei gynllunio. Am y rhesymau hyn rydym wedi hoelio ein sylw ar ddatblygiad coetiroedd a rheoli rhywogaethau, er mwyn cefnogi cynhyrchiad masnachol. Rydym wedi ymdrin â hyn o safbwynt perchennog coetir sy’n bwriadu cynhyrchu incwm o blanhigion gwyllt.
Cewch fwy o wybodaeth yma:

DILYNWCH NI’N FYW AR
FACEBOOK
Ymunwch â’n cymuned ar Facebook. Am y wybodaeth ddiweddaraf ewch i …
CEFNOGWYD GAN | ||