Skip to main content

YMCHWIL AR
GYNNYRCH

Rydym wedi bod yn ymchwilio sudd bedw, garlleg gwyllt, blodau ysgaw, hadau coed a phlanhigion persawrus ar gyfer cynhyrchu olewau naws: ble y gellir dod o hyd i’r cynhyrchion hyn a sut y gellir eu cynaeafu’n gynaliadwy ar sail fasnachol?

YMCHWIL AR
GYNNYRCH

YMCHWIL AR GYNNYRCH

Mae modd defnyddio planhigion mewn ffyrdd diddorol – ond ni ellir marchnata pob un i’w werthu. Penderfynu pa gynhyrchion y gellir eu cynhaeaf yn gynaliadwy a werthu, canfod cwsmeriaid posibl a sut i’w cyrraedd – dyna sy’n troi syniad yn incwm. Gelwir hyn yn ‘gadwyn gyflenwi’ – rhywbeth sy’n cysylltu adnodd gwyllt yn y coetiroedd â’r defnydd a wna cwsmeriaid ohono.

Dilynwch y dolenni isod i ddysgu rhagor am y cynhyrchion rydym wedi bod yn eu hymchwilio:

Gweler ein tudalennau CYNALIADWYEDD i gael rhagor o wybodaeth am gynaeafu planhigion gwyllt.

MAE YSTYRIAETHAU A GOFYNION PWYSIG ERAILL YN CYNNWYS

  • Iechyd a Diogelwch – a oes gennych chi gynrychiolydd iechyd a diogelwch hyfforddedig/penodedig a fydd yn gallu cynhyrchu a monitro asesiadau risg sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd/masnachu

  • Yswiriant – a yw eich polisi presennol yn yswirio yn erbyn y gweithgaredd/masnachu newydd

  • Cofrestru fel busnes bwyd – cyn i chi ddechrau gwerthu bwyd neu ddiodydd rhaid i chi gofrestru gydag Adran Iechyd yr Amgylchedd eich Cyngor lleol a chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth hylendid bwyd.

  • Deddfwriaeth – gwiriwch fod eich cyfansoddiad yn caniatáu i’ch grŵp fasnachu

  • Datblygu cynnyrch bwyd a diod – a oeddech yn gwybod y gallwch gael mynediad at amrywiaeth o becynnau cymorth gan Cywain ym Menter a Busnes a’r Ganolfan Technoleg Bwyd?

Rydym yn fodlon cael sgwrs ynglŷn ag unrhyw gynhyrchion coedwigoedd di-bren eraill yr ydych yn awyddus i’w harchwilio, a thrafod sut i fynd ati i ddatblygu eich syniadau. Cofiwch GYSYLLTU!

DILYNWCH NI’N FYW AR
FACEBOOK

Ymunwch â’n cymuned ar Facebook. Am y wybodaeth ddiweddaraf ewch i …