Skip to main content

POLISI PREIFATRWYDD

MYNEGAI

CYFLWYNIAD

Mae’r polisi hwn yn nodi sut rydyn ni’n casglu, prosesu ac yn defnyddio’r ychydig wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu yn eich cylch ar ein gwefan, www.dewisgwyllt.co.uk. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno i delerau’r polisi hwn. Mae Dewis Gwyllt wedi ymrwymo i ddiogelu a gwarchod eich preifatrwydd. Pryd bynnag y byddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni, byddwn yn trin y wybodaeth honno yn unol â’r polisi hwn, deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol y DU, Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, ac arferion gorau’r Rhyngrwyd.

Y WYBODAETH RYDYM YN EI CHASGLU

Gallwch ddefnyddio’r rhan fwyaf o’r nodweddion ar y wefan hon heb ddatgan unrhyw wybodaeth bersonol. Mae rhai nodweddion opsiynol, megis y ffurflen gyswllt, yn gofyn i chi nodi ychydig o wybodaeth bersonol (e.e. enw, cyfeiriad e-bost, pwnc a neges). Mae’r ffurflen gyswllt yn cael ei chadw ar y wefan hon, ac mae’r holl wybodaeth sy’n cael ei thrawsyrru drwy’r ffurflen hon wedi’i hamgryptio. 

Drwy ddarparu eich data personol i ni, rydych yn rhoi caniatâd i ni gadw a phrosesu eich data, fel y nodwyd yn y Polisi Preifatrwydd hwn. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Gweler yr adran Rheoli Eich Gwybodaeth Sydd Dan Ein Gofal Ni am fanylion ynghylch tynnu caniatâd yn ôl.

CWCIS

Mae cwcis yn ddarnau bach o ddata sydd mewn ffeiliau testun, sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur chi, neu ddyfais arall sydd wedi cysylltu â’r Rhyngrwyd, pan fydd gwefannau yn cael eu llwytho mewn porwr. Fe’i defnyddir yn eang i’ch ‘cofio’ chi, ac unrhyw ddewisiadau y byddwch yn eu gwneud o ran sut rydych chi’n defnyddio’r wefan (megis iaith). Fel arfer, mae cwcis un ai’n para ar gyfer ymweliad unigol (gyda ‘cwci sesiwn’) neu ar gyfer nifer o ymweliadau dilynol (gyda ‘cwci parhaus’). Dim ond ar gyfer gweithredu’r wefan hon yn arferol rydyn ni’n defnyddio cwcis. Gallwch ddysgu mwy am y cwcis, a sut rydyn ni’n eu defnyddio nhw yma, www.dewisgwyllt.co.uk a chofiwch ddarllen ein Polisi Cwcis.

SUT RYDYM YN DEFNYDDIO EICH DATA PERSONOL

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu’n bennaf ar www.dewisgwyllt.co.uk i gyfathrebu gyda chi. Rydym yn defnyddio’r ffurflen gysylltu ar y wefan hon i gyfathrebu’n uniongyrchol gydag unrhyw un sy’n ei llenwi a’i chyflwyno. Drwy nodi eich gwybodaeth ar ein ffurflen gysylltu, rydych yn rhoi caniatâd i ni gysylltu â chi a defnyddio’r manylion rydych wedi’u darparu at y dibenion rydym wedi’u hamlinellu yn y ddogfen hon. Ni fyddwn yn trosglwyddo, neu’n gwerthu, eich gwybodaeth i barti arall, oni bai ei fod yn ofynnol gwneud hynny yn ôl y gyfraith. Gallwch ofyn i dynnu eich gwybodaeth oddi ar ein systemau ar unrhyw adeg. Gweler yr adran Rheoli Eich Gwybodaeth Sydd Dan Ein Gofal Ni am fanylion ynghylch sut i dynnu caniatâd yn ôl fel nad ydym yn dal, nag yn defnyddio’ch gwybodaeth.

DATGELU A CHADW EICH DATA

Ni fyddwn yn gwerthu, nac yn rhoi eich data i unrhyw drydydd parti nad ydynt wedi cael eu henwi yn y Polisi Preifatrwydd hwn. Byddwn yn cadw’ch data personol cyn hired ag y bo’n hanfodol, er mwyn cynnig gwasanaethau safonol i chi. Gellir tynnu gwybodaeth bersonol a anfonir atom yn ôl ar unrhyw adeg. Gweler yr adran Rheoli Eich Gwybodaeth Sydd Dan Ein Gofal Ni i gael gwybodaeth bellach ynghylch tynnu caniatâd yn ôl. 

Yn olaf, efallai y datgelir eich gwybodaeth yn unol â’n rhwymedigaethau cyfreithiol, er enghraifft, os bydd hynny’n ofynnol yn ôl awdurdodau atal twyll neu droseddau eraill.

EIN DULL O DDIOGELU EICH DATA PERSONOL

Rydym yn ymdrin â diogelwch o ddifrif, ac yn cymryd mesurau priodol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei dal gennym ni yn cael ei chadw ar systemau sy’n cael eu diogelu gan systemau diogelwch electronig, ac maen nhw’n cael eu hategu’n rheolaidd.

CYNNWYS WEDI’I FEWNOSOD O WEFANNAU ERAILL

O fewn yr erthyglau ar y wefan hon efallai y gwelir cynnwys wedi’i fewnosod (e.e. fideos, delweddau, erthyglau ac ati) o wefannau trydydd parti arall. Mae cynnwys wedi’i fewnosod o wefannau eraill yn ymddwyn yn yr un ffordd yn union â phe byddech chi wedi ymweld â gwefan arall. Efallai y bydd y gwefannau hyn yn casglu data yn eich cylch chi, yn defnyddio cwcis, a systemau olrhain trydydd parti ychwanegol i fonitro eich defnydd o’r cynnwys hwnnw sydd wedi’i fewnosod.

Nid ydym yn gyfrifol am y data mae’r gwefannau hyn yn ei gasglu, nag ychwaith sut maen nhw’n defnyddio’ch data. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y ffordd mae’r gwefannau hyn yn casglu a thrin eich data, tarwch olwg ar Bolisïau Preifatrwydd a Thelerau ac Amodau eu Gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

RHEOLI EICH GWYBODAETH SYDD DAN EIN GOFAL NI

Mae gennych hawl gweld copïau o’r holl ddata personol a gedwir gennym ni, ac i newid, i gywiro, neu ddileu data o’r fath. Gallwch dynnu eich caniatâd i ni gadw a defnyddio’ch gwybodaeth yn ôl ar unrhyw adeg. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, neu rydych eisiau tynnu eich caniatâd yn ôl o ran eich data, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein ffurflen gyswllt. Nodwch ‘Caniatâd Gwybodaeth’ yn llinell pwnc y ffurflen gyswllt.

Byddwn yn ymateb i’ch ceisiadau ‘Caniatâd Gwybodaeth’ cyn gynted â phosibl, fel arfer erbyn y diwrnod gwaith dilynol. Byddwn yn ymdrechu i ddelio â’ch ymholiad, fodd bynnag, mewn rhai achosion efallai y bydd yn gyfreithiol ofynnol i ni gadw data neu wybodaeth benodol.

CWYNION

Os ydych eisiau gwneud cwyn am y ffordd rydym yn defnyddio’ch data personol, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein ffurflen gyswllt (https://www.dewisgwyllt.co.uk/contact-us/). Nodwch ‘Cwyn’ yn llinell pwnc y ffurflen gyswllt. Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy’r post. Gallwch weld ein cyfeiriad post yn yr adran Cysylltu â Ni.

Y ogystal â gwneud cwyn yn uniongyrchol atom ni, mae gennych hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (https://ico.org.uk/). Dyma’r corff sy’n gyfrifol am ddiogelu data personol yn y DU.

ADDASIADAU I’R POLISI

Ar brydiau, byddwn yn diweddaru’r Polisi Preifatrwydd hwn drwy rannu fersiwn newydd ar ein gwefan. Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i’r polisïau hyn oherwydd penderfyniadau busnes neu newidiadau mewn deddfwriaeth. Er eich budd eich hun, cofiwch daro golwg ar y dudalen hon yn aml i sicrhau eich bod yn gyfforddus ag unrhyw newidiadau a wnaed.

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn, ynghyd â’n Polisi Cwcis a Thelerau ac Amodau ein Gwefan yn cynnwys y cytundeb llawn rhyngom ni a chi mewn perthynas â’ch defnydd o’n gwefan. Mae’r polisïau’n disodli’r holl gytundebau blaenorol mewn perthynas â’ch defnydd o’r wefan hon.

CYSYLLTU Â NI

Os hoffech gysylltu â ni ynghylch ein Polisi Preifatrwydd, neu unrhyw fater arall, ysgrifennwch atom drwy ddefnyddio ein cyfeiriad post:

Llais y Goedwig
Uned 1, Parc Eco Dyfi
Machynlleth
Powys
SY20 8AX

Neu, os hoffech anfon neges e-bost atom, defnyddiwch y ffurflen gyswllt hon ar y wefan. Mae’r ffurflen gyswllt ar gael ar y wefan ganlynol: www.dewisgwyllt.co.uk/cy/cysylltwch-a-ni/

Diweddariad diwethaf: Mai 2022