Skip to main content

YSGAW

YSGAW

Mae blodau’r ysgaw yn blanhigyn poblogaidd arall. Ond gyda’r rhan fwyaf o flodau’r ysgaw a ddefnyddiwn mewn diodydd, sebonau a chynhyrchion eraill yn cael eu mewnforio o Ddwyrain Ewrop, oes yna gyfleoedd cynaeafu masnachol yng Nghymru?

BETH YW BLODYN YR YSGAW?
-Sambucus nigra-

Wrth ymweld â’ch coetir cymunedol yn hwyr yn y gwanwyn neu ddechrau’r haf, efallai y gwelwch chi lwyn troellog wedi’i orchuddio â mwsogl, a blodau gwynion persawrus yn flanced drosto. Efallai mai dim ond uchder gwrych sydd iddo ond mae ganddo’r gallu i dyfu hyd at 10m gyda boncyff â diamedr o 30cm iddo! Sambucus nigra yw hwn, a’i enw cyffredin yw’r Ysgaw. Mae rhai yn ystyried Ysgaw yn borth i’r isfyd a theyrnasiad hudolus Pan, ac yn anffodus, mae eraill yn ei ystyried yn blanhigyn sy’n destun poendod ac yn aml caiff ei ddisgrifio’n flêr a phrysgog a’i ddosbarthu’n chwyn gan nifer un. Wedi dweud hynny, mae’r planhigyn hwn wedi bodoli gydol y milenia ac i’r rhai sy’n gwybod, Ysgaw yw un o’r planhigion mwyaf buddiol, yn llawn daioni ac yn uchel ei barch.

PAM CASGLU BLODYN YR YSGAW?

Yn ôl llên gwerin, mae gwerth meddyginiaethol a choginiol rhyfeddol i’r planhigyn hwn. Defnyddiwyd Blodau’r Ysgaw ac Eirin Ysgaw am sawl peth, o driniaethau ‘iachâd hudol’ a thinturiau i liw gwallt, ac o’ch gwarchod rhag y diafol i eli croen! Heddiw, mae’n fwy enwog fel ychwanegiad blasus at ddiodydd hafaidd, teisenni a jamiau, gyda’r blodau hefyd yn cael eu defnyddio fel addurniadau hyfryd. Wrth reswm, mae hyn yn cyflwyno cyfleoedd ar gyfer cynaeafu masnachol, cynaliadwy.

CYFLEOEDD CYNAEAFU MASNACHOL GWYLLT

Mae Blodau’r Ysgaw wedi bod yn gynhwysyn mewn bwyd, diod a chynnyrch harddwch ers nifer o flynyddoedd, a heddiw mae mwyfwy o alw amdanynt wrth i bobl geisio cynnyrch naturiol, lleol er budd eu llesiant ac i leihau effaith ar yr amgylchedd. Ymhlith y cynnyrch sydd ar gael heddiw, ar-lein ac yn y siopau, sy’n defnyddio Blodau’r Ysgaw mae cwrw, seidr, gwirod, jamiau, cordialau, cynnyrch gofal croen, sebon, hufen iâ, eli lliw haul a thriniaethau gwallt ar gyfer dynion, a dim ond rhai ohonynt yw’r rhain.

Roedd y rhan fwyaf o Flodau’r Ysgaw a gafodd eu defnyddio yn y DU cyn Brexit wedi’u sychu a’u mewnforio o Ddwyrain Ewrop lle mae nifer o berlysiau gwyllt yn cael eu casglu a’u sychu i’w gwerthu ledled y byd oherwydd bod toreth ohonynt i’w cael yn y rhanbarthau hynny, cyffredinrwydd perllannau ysgaw mawr a llafur rhad wrth gwrs. Mae perllannau blodau’r ysgaw ar gael yn y DU hefyd, gyda chwmnïau fel Belvoir (cynhyrchydd diodydd meddal) yn rheoli eu safle 60 acer eu hunain.

Mae llu o gwmnïau yng Nghymru (ac ar draws y byd) sy’n defnyddio blodau’r ysgaw yn eu cynnyrch. Yn ôl ein hymchwil, yng Nghymru mae blodau’r ysgaw ffres (y blaenau) yn gwneud rhwng £3.00 – £5.00 fesul cilo (pwysau gwyrdd). Y pris manwerthu a argymhellir ar gyfer blodau’r ysgaw yw rhwng £20 – £30 fesul cilo ac mae’n rhwydd eu trin gan eu bod yn para mor hir.

Cafodd Dewis Gwyllt sgwrs â grŵp bach o fusnesau o Gymru sy’n defnyddio blodau’r ysgaw yn eu cynnyrch. Mae’r rhan fwyaf yn eu cyrchu eu hunain ond gan amlaf cânt eu prynu i mewn, wedi’u sychu, o Ddwyrain Ewrop – gan gynnwys cynhyrchwyr gwirod, cwrw, diodydd meddal a sebon. Roedd gan y rhan fwyaf o’r busnesau dan sylw ddiddordeb mawr mewn prynu blodau’r ysgaw wedi’u cynaeafu’n gynaliadwy yng Nghymru – a hynny mewn symiau bach hyd yn oed, gan y byddai hyn yn eu galluogi i ddweud eu bod yn defnyddio cynnyrch ‘lleol’.

Cyflenwi blodau ffres:

Yng Nghymru, mae cwmnïau fel Mydflower yn awyddus i gyrchu blodau’r ysgaw ffres o Gymru i’w defnyddio yn eu hystod o ddiodydd. Yn Lloegr, mae Belvoir yn ategu at eu cyflenwadau drwy drefnu casgliadau gan gynaeafwyr annibynnol, y mae gofyn iddynt eu danfon i fannau penodol, gan ddefnyddio bagiau penodol a chânt eu talu fesul cilo. Gweler SUT I GASGLU A STORIO BLODAU’R YSGAW isod a’n tudalenau CYNALIADWYEDD am ragor o wybodaeth.

Cyflenwi blodau sych:

Yn dilyn treialon cynaeafu a sychu Dewis Gwyllt yn 2021, fel canllaw bras, bydd pob 100g o flodau gwyllt yn cynhyrchu oddeutu 18g mewn pwysau sych. Roedd cynhyrchwyr cwrw a gweithgynhyrchwyr sebon o Gymru yn awyddus i ategu at eu cyflenwadau presennol er mwyn lleihau milltiroedd bwyd ac i atgyfnerthu Cymreictod eu cynnyrch. Gweler SUT I GASGLU A STORIO BLODAU’R YSGAW isod a’n tudalenau CYNALIADWYEDD am ragor o wybodaeth.

 Mae gan ein tudalen MARCHNATA ragor o wybodaeth ynghylch cyfleoedd masnachol sydd ynghlwm â chynnyrch heb fod yn bren o’r goedwig a gwasanaethau cymorth allanol.

CYFLEOEDD MASNACHOL AR GYFER TYFU BLODAU’R YSGAW

Os yw meddwl am berllan Blodau’r Ysgaw yn eich ysbrydoli chi, yna efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn Adroddiad Nuffield Farming a gafodd ei gyhoeddi gan Alice Jones NSch 2019, Uwch Gynghorydd Arloesi Bwyd a Gwyddonydd Synhwyraidd ym Mhrifysgol Nottingham sy’n dwyn y teitl Cultivating Elders for the UK Processing Industries. Cafnu’r ymchwil, a gafodd ei ariannu gan Thatchers Cider, fod:

Yr hyn sy’n allweddol i fod yn ymwybodol ohono wrth dyfu blodau’r ysgaw yw deall botaneg y rhywogaeth, sut mae’n hoffi rhyngweithio â’i amgylchedd lleol (uwch law’r tir ac oddi tano) a’r egwyddorion sylfaenol sydd wrth wraidd sut ydych yn mynd ati i weithio gyda’r rhywogaeth a’r tir i ddewis neu ail-greu’r amodau gorau posibl, yn hytrach na dilyn rhestr benodol o driniaethau. Mae dealltwriaeth fwy trylwyr yn cynnig pecyn cymorth i’w ddefnyddio gyda’ch tir ac yn eich gwaith eich hun, ac mae’n caniatáu dull gweithredu addasedig er mwyn sicrhau cnwd cynaliadwy, hirdymor”.

 Gallwch ddarllen yr adroddiad yma: 

Cultivating Elders for the UK Processing Industries

PA BRYD Y DYLID CASGLU BLODAU’R YSGAW?

Mae’n rhwydd casglu blodau’r ysgaw. Mae’r blodau yn dechrau ymddangos ddiwedd mis Mai ac yn parhau tan ddechrau i ganol mis Mehefin. Yn ôl rhai, yr adeg orau i’w casglu yw oriau mân y bore a hynny er mwyn cyflawni’r cryfder gorau posibl gan fod lefelau dosbarthu’r paill yn is, ac yn ddelfrydol dylech gasglu mewn tywydd sych. Y paill sy’n gwneud y blodau mor flasus, felly gorau po leiaf o aflonyddwch mae’r blodyn wedi’i gael, er mwyn cyflawni cynnyrch o ansawdd.

BLE MAE BLODAU’R YSGAW?

Ym mhob man bron iawn! Coetiroedd (ymylon coetiroedd hyd yn oed), gwrychoedd, glannau afonydd, llwybrau gwledig, tir gwastraff, tir fferm a gerddi. Mae’n well ganddynt ardaloedd heulog sy’n wynebu’r de, er y gallant dyfu yn ardaloedd lled-gysgodol ac yn y rhan fwyaf o briddoedd hefyd. Dylid bod yn ofalus wrth gasglu o wrychoedd ar ochr y ffordd. Oherwydd traffig yn amlwg, ond hefyd oherwydd gall llwch a llygredd effeithio ar y blodau. Gall ceir sy’n gwibio heibio ddosbarthu’r paill, a gwanhau’r blas.

A GAF I DDEFNYDDIO UNRHYW RAN O’R YSGAW?

Na. Mae’r blodau a’r eirin yn fwytadwy yn gymedrol. Wedi dweud hynny, mae’r coesau, y blodau a’r brigau yn wenwynig i fodau dynol ac ni ddylech eu bwyta. Mae blaguryn ifanc Ysgaw yn fwytadwy pan mae’n hynod ifanc ond nid yw’n argymelledig gan y bydd hyn yn newid wrth iddynt aeddfedu. Caiff y rhisgl ei ddefnyddio am resymau meddyginiaethol gan Feddygon Llysiau. Mae’r coedyn yn gwneud pren cerfio da iawn. Ni ellir defnyddio coedyn yr Ysgaw fel coed tân gan fod y mwg yn creu nwyon peryglus oherwydd ei fod yn cynnwys Syanid. Yn ôl cerdd ynghylch coed tân, ‘make a fire of Elder tree, death within your house will be’!

SUT I GASGLU A STORIO BLODAU’R YSGAW?

Sicrhewch ganiatâd y tirfeddiannwr bob tro cyn i chi fynd ati i gynaeafu.

Ni ddylai’r lefelau cynaeafu fynd y tu hwnt i’r cyfraddau y gall y planhigyn ail-gyflenwi ac mae angen i’r arferion cynaeafu sicrhau nad yw’r planhigion yn cael eu niweidio a’u bod yn parhau’n gynhyrchiol ac yn iach, ynghyd â rhywogaethau a chynefinoedd eraill yn yr ecosystem gysylltiedig. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ynghylch CYNAEAFU CYNALIADWY.

Mae’r cyfarpar yn syml – mae’n well defnyddio basged yn hytrach na bag, er mwyn osgoi cleisio ac mae hefyd yn rhoi cyfle i unrhyw greaduriaid sy’n cuddio i ddianc, a ffon gerdded i dynnu i lawr blodau sy’n anodd eu cyrraedd. Mae’r coesau yn torri yn weddol rwydd drwy eu pinsio, felly nid oes angen siswrn tocio arnoch. Os ydych yn defnyddio ysgol, gan fod y sbesimenau mwyaf helaeth yn llawer talach yn aml, sicrhewch fod rhywun yn ei dal yn llonydd i chi.

Os ydych yn bwriadu prosesu’r blodau, i gynhyrchu cynnyrch cyffelyb, mae’n well defnyddio’r blodau ar y diwrnod y gwnaethoch eu casglu.  Os ydych yn bwriadu sychu’ch blodau’r ysgaw, dylid gwneud hyn mewn ardal gynnes, sydd â chyflenwad da o awyr iach. Fel rhan o dreial bach gan Dewis Gwyllt, cafodd blodau eu hongian ar ffurf ‘Garlant’ mewn ystafell fach yn y tŷ yn ystod yr haf, a chymerasant oddeutu 5 diwrnod i sychu drwyddynt, gyda rhai o’r cynhaeaf yn difetha oherwydd twf mwsogl. Felly, mae’n well defnyddio twnnel polythen neu ddysychwr yn ddelfrydol. Byddwch yn ofalus rhag i chi aflonyddu’r cynhaeaf gan y bydd hynny’n gwasgaru’r paill, ac yn lleihau cryfder ac ansawdd y cynnyrch. Ar ôl iddynt sychu, tynnwch y blodau sych oddi ar y coesau a’u rhoi mewn cynhwysydd nad yw’n gadael aer i mewn, a’i storio mewn lle tywyll, claear.

LLÊN GWERIN AC OFERGOELION

Mae nifer o hen straeon ac awgrymiadau o beth all ddigwydd i’r rheini sy’n gwneud difrod i goed ysgaw. Yn aml, mae’r ‘chwedlau gwrachod’ hyn, fel y’u gelwid, yn drosiadau er mwyn gwarchod y rhywogaethau hudolus hyn a’u defnyddiau heb gael eich galw’n wrach! Credid bod buddion meddyginiaethol Ysgaw yn wych, felly os byddech chi’n gwneud difrod i’r planhigyn, byddai ffawd ddrwg yn dod i’ch rhan gan na fyddai gennych unrhyw feddyginiaeth ataliol. Credid pe byddech yn disgyn i gysgu o dan Ysgaw ganol yr haf, y byddech yn cael eich cipio i dir y tylwyth teg am byth. Tybed ai dyma pam mae persawr meddwol i goeden yn llawn blodau? Yn ôl rhai, bydd plannu Ysgaw yn eich gardd yn atal mellt, rhywsut! Yma yng Nghymru, cedwid dail yr Ysgaw yn y tŷ er mwyn atal gwarchod. Mae nifer o ddiwylliannau yn hemisffer y gogledd yn credu bod y goeden Ysgaw yn gysegredig gan ei bod yn cynnwys ysbryd y Fam Ysgaw, Hylder Moer, brenhines yr isfyd, sydd â’r gallu i warchod neu niweidio. Tybed ai cyfeiriad yw hwn at ffrwythau a choesau’r planhigyn arbennig hwn neu a oes ysbryd go iawn yn bodoli ynddo?  Y naill ffordd neu’r llall, mae’r planhigyn hwn yn haeddu parch!

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud ag ymchwil Dewis Gwyllt, cofiwch GYSYLLTU Â NI.

DILYNWCH NI’N FYW AR
FACEBOOK

Ymunwch â’n cymuned ar Facebook. Am y wybodaeth ddiweddaraf ewch i …