Skip to main content

DEWIS CYNHYRCHION

Mae yna ychydig o wahanol ffyrdd o fynd ati i ddewis cynnyrch coetir. Darllenwch ymlaen i gael gwybod beth sydd angen i chi ei ystyried i gael ysbrydoliaeth…

DEWIS
CYNHYRCHION

DEWIS CYNHYRCHION

Wrth ddewis beth y gallech ei gynaeafu o’ch coetir er mwyn gwneud incwm, mae angen ystyried cyfuniad o bethau, sef yr hyn sydd ar gael, eich diddordebau a’ch sgiliau (e.e. ydych chi eisoes yn gwneud basgedi neu’n adnabod rhywun yn eich ardal sy’n eu gwneud?), yr amser a’r arian y gallwch eu buddsoddi, ac – yn hollbwysig – natur y marchnadoedd.

Os nad oes gennych syniadau penodol dan sylw, gallech edrych drwy lyfrau chwilota am fwyd, llyfrau crefft a hyd yn oed llyfrau hanes lleol i gael syniadau. Gallech hefyd edrych drwy’r cronfeydd data niferus o gynhyrchion defnyddiol.

Mae Plants for a Future (PFAF) yn gronfa ddata am ddim sy’n gasgliad o wybodaeth gryno am ffyrdd o ddefnyddio 7000+ o blanhigion (nid yw bob un ohonynt o’r DU). Gallwch chwilio yn ôl rhywogaeth neu ddefnydd.

Fodd bynnag, mae angen bod yn ofalus:

  • Mae cronfa ddata PFAF yn rhestru pob defnydd heb ddangos pa rai sy’n dderbyniol ym marchnadoedd y DU – yn benodol, mae angen bod yn ochelgar o ran defnyddiau meddyginiaethol neu honiadau am effeithiau meddyginiaethol, oni bai eich bod yn feddyg llysieuol cymwys. 

  • Mae’r wybodaeth am bob rhywogaeth yn ymwneud â’i defnydd mewn garddwriaeth – nid yw’r ffaith ei bod yn bosib ei thyfu yn golygu y dylid ei thyfu, ac yn sicr nid yw hyn yn dweud wrthym a ellir ei chynaeafu’n gynaliadwy o’r gwyllt ai peidio. Wrth ystyried cynaeafu cynaliadwy, mae angen cynllunio ar sail data adnoddau yn eich coetir a gwybodaeth ynghylch hanes bywyd y rhywogaeth. Gweler ein tudalen ASTUDIAETH ACHOS GARLLEG GWYLLT am enghraifft ymarferol o’r hyn sydd ei angen.

Cyn ichi wneud penderfyniad ynghylch unrhyw beth, gwnewch yn siŵr fod yna farchnadoedd ar ei gyfer. Gweler ein tudalen FARCHNATA am mwy o wybodaeth.

DILYNWCH NI’N FYW AR
FACEBOOK

Ymunwch â’n cymuned ar Facebook. Am y wybodaeth ddiweddaraf ewch i …