Skip to main content

MARCHNATA

MARCHNATA

Mae llawer o ffyrdd o wneud incwm o’ch coetir, ond nid yw pob cynnyrch neu farchnad yn addas ar gyfer pob coetir. Mae’r cyfleoedd mor amrywiol â’r coetiroedd, y rhywogaethau, y lleoliadau a’r bobl sy’n eu mwynhau.


MARCHNATA CYNHYRCHION COETIR

Mae sawl ffordd o gynhyrchu incwm o nwyddau coetir – mae’r cyfan yn dibynnu ar y sgiliau, amser, egni ac adnoddau y gallwch eu buddsoddi ac, efallai’n bwysicaf oll, cryfder eich dychymyg a’ch parodrwydd i gymryd risg a rhoi cynnig ar rywbeth!

Fodd bynnag, gallwn edrych ar hyn ychydig yn fanylach drwy feddwl am y gwahanol gategorïau o gyfleoedd sydd ar gael yn y farchnad.

Deunyddiau crai cyfanwerth – sef gwerthu cynhyrchion mewn symiau mawr am bris isel, lle mae angen gwerthu mewn symiau mawr er mwyn i bobl eraill eu prosesu ac ychwanegu gwerth iddynt. Ceir camdybiaeth gyffredinol fod gwerthu o’r math hwn yn ecsbloetiol, a bod rhaid i’r symiau fod yn fawr. Ond nid oes rhaid i bethau fod felly, a gall fod yn bosib cyflawni’r isafswm yn eithaf rhwydd, a gallwch basio eich cynhyrchion ymlaen yn gyflym heb lawer o brosesu, pecynnu a hyrwyddo. Gweler ein HASTUDIAETH ACHOS AR HADAU COED i gael gwybod mwy.

Cynhyrchion ‘niche’– pethau sy’n cael eu gwerthu i brynwyr arbenigol iawn mewn symiau bychain am brisiau uchel. Gallai hyn fod yn sebon hypoalergenig arbennig, cen i’w ddefnyddio fel coed gan rai sy’n hoff o greu rheilffyrdd model, neu, efallai eich bod yn gwerthu plu sgrech y coed fel gwerthiant untro i bysgotwyr, i wneud plu pysgota. Ffordd dda o ddarganfod pethau y mae pobl yn talu pris da amdanynt yw drwy edrych drwy’r amrywiaeth eang o gynhyrchion sydd ar werth ar ebay – pethau na fyddech wedi meddwl amdanynt, o bosib. Unwaith eto, mae dychymyg da a gallu meddwl yn greadigol yn helpu.

Cynhyrchion arbenigol – nwyddau sy’n cael eu cynhyrchu drwy brosesu’r hyn rydych yn ei gynaeafu i fod yn gynnyrch y gellir ei werthu ar y sail ei fod yn gynaliadwy, yn naturiol, yn helpu i gefnogi’r gwaith o reoli coetiroedd, ac ati. Fodd bynnag, er ei bod yn bosib y byddwch yn gwneud elw da ar y cynnyrch, bydd angen buddsoddi cyfalaf, amser ac offer cyn hynny ac, yn bwysicaf oll, bydd rhaid ichi roi gwybod i gwsmeriaid posib fod gennych rywbeth i’w werthu. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw drwy werthu’n lleol – mewn marchnad ffermwyr efallai, neu gallech sefydlu siop ar y we. Mae llawer o gyfleoedd ar gael – mae’n dibynnu beth rydych yn fodlon ei wneud.

Cynhyrchion profiad – cyfleoedd i werthu cynnyrch fel rhan o brofiad neu, os edrychwn ar hyn mewn ffordd arall, cyfle i ddefnyddio cynnyrch fel thema i greu incwm, e.e. heb bren helyg, ni allwch gynnal cwrs gwehyddu basgedi, ond dim ond ffracsiwn bach iawn o ffi’r cwrs fydd yn mynd tuag at gost y pren helyg. Gallech gynnig profiadau megis chwilota am fwyd, cyrsiau crefft, penwythnosau gastronomaidd, adeiladu cuddfan, gwersylla canopi, a llu o bethau eraill!

Felly, mae llawer o ffyrdd o wneud incwm o’ch coetir, ond nid yw pob cynnyrch neu farchnad yn addas ar gyfer pob coetir. Mae’r cyfleoedd mor amrywiol â’r coetiroedd, y rhywogaethau, y lleoliadau a’r bobl sy’n eu mwynhau.

Os nad ydych wedi gwneud eisoes, ewch am dro rhithiol o gwmpas coetir gyda Wild Resources Ltd, i ystyried opsiynau posib o ran cynhyrchion. Enw’r ffilm yw Walk Around The Woodland.

Os ydych eisiau cymorth proffesiynol gyda marchnata, yn aml mae grantiau, cyngor am ddim a benthyciadau ar gael i fusnesau newydd. Er enghraifft, mae Menter a Busnes, Cwmpas a Busnes Cymru oll yn cynnig ystod o wahanol wasanaethau cymorth. Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’ch asiantaeth cymorth menter leol i gael gwybodaeth gyfredol ynghylch y cymorth sydd ar gael…

Mae ardystiad yn ystyriaeth bwysig arall – mae llawer o wahanol gynlluniau ar gael i ardystio cynaeafu cynaliadwy, cynhyrchu lleol, ac ati. Ond beth yw gwerth ardystio eich cynnyrch, beth yw’r goblygiadau o ran cost ac adnoddau a sut fydd hyn yn fuddiol i’ch busnes? Gweler ein tudalen Ardystiad.


MARCHNATA CYNHYRCHION COETIR

Mae sawl ffordd o gynhyrchu incwm o nwyddau coetir – mae’r cyfan yn dibynnu ar y sgiliau, amser, egni ac adnoddau y gallwch eu buddsoddi ac, efallai’n bwysicaf oll, cryfder eich dychymyg a’ch parodrwydd i gymryd risg a rhoi cynnig ar rywbeth!

Fodd bynnag, gallwn edrych ar hyn ychydig yn fanylach drwy feddwl am y gwahanol gategorïau o gyfleoedd sydd ar gael yn y farchnad.

Deunyddiau crai cyfanwerth – sef gwerthu cynhyrchion mewn symiau mawr am bris isel, lle mae angen gwerthu mewn symiau mawr er mwyn i bobl eraill eu prosesu ac ychwanegu gwerth iddynt. Ceir camdybiaeth gyffredinol fod gwerthu o’r math hwn yn ecsbloetiol, a bod rhaid i’r symiau fod yn fawr. Ond nid oes rhaid i bethau fod felly, a gall fod yn bosib cyflawni’r isafswm yn eithaf rhwydd, a gallwch basio eich cynhyrchion ymlaen yn gyflym heb lawer o brosesu, pecynnu a hyrwyddo.

Cynhyrchion ‘niche’– pethau sy’n cael eu gwerthu i brynwyr arbenigol iawn mewn symiau bychain am brisiau uchel. Gallai hyn fod yn sebon hypoalergenig arbennig, cen i’w ddefnyddio fel coed gan rai sy’n hoff o greu rheilffyrdd model, neu, efallai eich bod yn gwerthu plu sgrech y coed fel gwerthiant untro i bysgotwyr, i wneud plu pysgota. Ffordd dda o ddarganfod pethau y mae pobl yn talu pris da amdanynt yw drwy edrych drwy’r amrywiaeth eang o gynhyrchion sydd ar werth ar ebay – pethau na fyddech wedi meddwl amdanynt, o bosib. Unwaith eto, mae dychymyg da a gallu meddwl yn greadigol yn helpu.

Cynhyrchion arbenigol – nwyddau sy’n cael eu cynhyrchu drwy brosesu’r hyn rydych yn ei gynaeafu i fod yn gynnyrch y gellir ei werthu ar y sail ei fod yn gynaliadwy, yn naturiol, yn helpu i gefnogi’r gwaith o reoli coetiroedd, ac ati. Fodd bynnag, er ei bod yn bosib y byddwch yn gwneud elw da ar y cynnyrch, bydd angen buddsoddi cyfalaf, amser ac offer cyn hynny ac, yn bwysicaf oll, bydd rhaid ichi roi gwybod i gwsmeriaid posib fod gennych rywbeth i’w werthu. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw drwy werthu’n lleol – mewn marchnad ffermwyr efallai, neu gallech sefydlu siop ar y we. Mae llawer o gyfleoedd ar gael – mae’n dibynnu beth rydych yn fodlon ei wneud.

Cynhyrchion profiad – cyfleoedd i werthu cynnyrch fel rhan o brofiad neu, os edrychwn ar hyn mewn ffordd arall, cyfle i ddefnyddio cynnyrch fel thema i greu incwm, e.e. heb bren helyg, ni allwch gynnal cwrs gwehyddu basgedi, ond dim ond ffracsiwn bach iawn o ffi’r cwrs fydd yn mynd tuag at gost y pren helyg. Gallech gynnig profiadau megis chwilota am fwyd, cyrsiau crefft, penwythnosau gastronomaidd, adeiladu cuddfan, gwersylla canopi, a llu o bethau eraill!

Felly, mae llawer o ffyrdd o wneud incwm o’ch coetir, ond nid yw pob cynnyrch neu farchnad yn addas ar gyfer pob coetir. Mae’r cyfleoedd mor amrywiol â’r coetiroedd, y rhywogaethau, y lleoliadau a’r bobl sy’n eu mwynhau.

Os nad ydych wedi gwneud eisoes, ewch am dro rhithiol o gwmpas coetir gyda Wild Resources Ltd, i ystyried opsiynau posib o ran cynhyrchion. Enw’r ffilm yw Walk Around The Woodland.

Os ydych eisiau cymorth proffesiynol gyda marchnata, yn aml mae grantiau, cyngor am ddim a benthyciadau ar gael i fusnesau newydd. Er enghraifft, mae Menter a Busnes, Cwmpas a Busnes Cymru oll yn cynnig ystod o wahanol wasanaethau cymorth. Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’ch asiantaeth cymorth menter leol i gael gwybodaeth gyfredol ynghylch y cymorth sydd ar gael…

Mae ardystiad yn ystyriaeth bwysig arall – mae llawer o wahanol gynlluniau ar gael i ardystio cynaeafu cynaliadwy, cynhyrchu lleol, ac ati. Ond beth yw gwerth ardystio eich cynnyrch, beth yw’r goblygiadau o ran cost ac adnoddau a sut fydd hyn yn fuddiol i’ch busnes? Gweler ein tudalen Ardystiad.


CoedNet

Cyfeirlyfr ar-lein o grwpiau a mentrau coetir cymunedol sy’n gwerthu cynaliadwy nwyddau, gwasanaethau a phrofiadau coedlannau Cymru. Fe’i crëwyd gan dîm Goods from the Woods sy’n gweithio i Llais y Goedwig.