Skip to main content

Categori: Arweiniad

Casglu hadau coed ar gyfer gwerthu uniongyrchol

Diben y canllaw byr hwn yw darparu rhestr wirio gryno ar sut i gasglu hadau o ansawdd uchel yn gynaliadwy o goed brodorol a chyfeirio darllenwyr at ffynonellau perthnasol o wybodaeth fanylach. Mae wedi’i anelu’n bennaf at reolwyr coetir sy’n dymuno casglu hadau o’u hardal leol i’w gwerthu’n uniongyrchol, naill ai fel hadau neu, yn fwy tebygol, fel stoc dyfu i feithrinfeydd.

Rhwymedigaethau cyfreithiol wrth gasglu hadau coed yng Nghymru

Rhaid i unrhyw un sy’n gwerthu ‘Deunyddiau atgenhedlol coedwigoedd’ (FRM) at ‘ddibenion Coedwigaeth’ gofrestru eu hunain gyda’r Comisiwn Coedwigaeth (FC) fel cyflenwr. Mae FRM yn cynnwys hadau coed a werthir yn uniongyrchol, neu hadau a gesglir ac a dyfir ar gyfer eu gwerthu’n ddiweddarach (e.e. eu plannu mewn meithrinfa a’u gwerthu fel eginblanhigion/trawsblaniadau).